Comisiwn y Senedd |
Lleoliad: |
Lleoliad Allanol |
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 15 Awst 2023 |
|
|||
Amser: |
10.35 - 11.45 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: SC(6)2023(7) Arbennig |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Y Gw. Anrh. Elin Jones AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Adam Price AS Ken Skates AS Joyce Watson AS |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid Leanne Baker, Prif Swyddog Pobl dros dro Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
|
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniadau ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.b Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.
2 Diweddariad ar Opsiynau Cyllid Costau Byw
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeialog rhwng swyddogion a chynrychiolwyr Undeb PCS a'r gwaith a wnaed ar yr opsiynau cost sy'n ymwneud â gwneud taliad costau byw yn ystod y flwyddyn i staff y Comisiwn mewn ymateb i gais Undeb PCS, fel rhan o'i anghydfod diwydiannol cenedlaethol, ynghylch taliad o £1,500 i'w wneud mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol gyfredol. Roedd y Prif Weinidog wedi ysgrifennu i nodi na fyddai’n cefnogi ceisio cyllid ychwanegol drwy gyllideb atodol.
Dywedodd bod Llywodraeth y DU wedi nodi’n glir bod yn rhaid i ddyfarniadau tâl gael eu rheoli o fewn y setliadau presennol. Yn sgil hynny, roedd angen i Lywodraeth Cymru wneud dewisiadau cyllidebol anodd i amsugno’r taliad £1500 i’w staff o’i chyllideb bresennol, ac roedd yn disgwyl i'r Comisiwn hefyd geisio amsugno’r costau o’r gyllideb bresennol sydd ar gael i’r Comisiwn.
Trafododd y Comisiwn y sefyllfa ehangach a'r dulliau amgen a phenderfynodd mewn egwyddor, drwy fwyafrif ag un Comisiynydd nad oedd yn cytuno, i gytuno i’r cais hwn gan Undeb PCS yn amodol ar ddod o hyd i gyllid o arbedion yng nghyllideb gyffredinol y Comisiwn.
Cytunodd y Comisiwn y byddai’r Bwrdd Gweithredol yn gwneud penderfyniadau er mwyn cronni’r swm o arian sydd ei angen i wneud taliad o’r fath, gan gydnabod y byddai hyn yn golygu cymryd arian o’r gyllideb staffio a thorri’r rhan fwyaf o wariant arall nad yw wedi’i ymrwymo ar hyn o bryd ac y byddai canlyniadau mesurau o’r fath yn cael effaith ar Aelodau o’r Senedd, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.
Cytunwyd y byddai angen i unrhyw gynnig fod yn seiliedig ar y Comisiwn yn sicrhau’r arian angenrheidiol pan wneir y taliad, a fyddai’n golygu taliadau fesul cam, yn ôl pob tebyg.
Byddai angen monitro ac adolygu pellach i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i'r Comisiwn.
Trafododd y Comisiwn hefyd y ddeialog ehangach rhwng swyddogion a chynrychiolwyr Undeb PCS, a chytunodd y byddent yn gwneud penderfyniadau terfynol ar ystyriaethau o ran taliad costau byw ac ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25 ym mis Medi.